P-04-321 Gwasanaethau Trenau Arriva Cymru rhwng De-orllewin Cymru a De-ddwyrain Cymru

Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Trenau Arriva Cymru yn darparu gwasanaethau trên i gymudwyr rhwng de-orllewin Cymru a de-ddwyrain Cymru sy’n amserol, yn gyfleus ac yn addas i’r diben ac sy’n cynnwys digon o seddi/gerbydau i alluogi teithwyr i deithio’n gysurus.

Linc i’r ddeiseb:
http://senedd.assemblywales.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=1014&optionId=0

Cynigiwyd gan: Bjorn Rödde

Nifer y llofnodion: 162


Diweddariad: Derbyniwyd gohebiaeth gan y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau, y deisebydd, Passenger Focus a Trenau Arriva Cymru.